Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden

CRONFA ADFER CHWARAEON A HAMDDEN I HELPU I ATAL DISWYDDO MAWR YN Y BYD CHWARAEON YNG NGHYMRU

Mae Victoria Ward, Prif Weithredwr Cymdeithas Chwaraeon Cymru, wedi ymateb iā€™r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd Ā£14 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogiā€™r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y gronfa i ddarparwyr chwaraeon a hamdden cyhoeddus, preifat a nid-er-elw ledled Cymru.

Dywedodd Victoria:

ā€œRydyn niā€™n croesawu ymrwymiad tymor hir y Gweinidog i gefnogi chwaraeon yng Nghymru ac yn gwerthfawrogi ei gydnabyddiaeth bod gweithgarwch corfforol yn rhan hanfodol oā€™n gallu i adfer wediā€™r pandemig a dod allan yn gryfach.    

ā€œMae hwn yn ddarlun syā€™n esblygu wrth i ni lywio llwybr drwyā€™r heriau iechyd cyhoeddus rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, a sicrhau cadernid ariannol, diogelu swyddi a gwarchod iechyd a lles ein cenedl yw ein blaenoriaethau mwyaf ni. Gan gydweithio Ć¢ Llywodraeth Cymru aā€™r sefydliadau syā€™n aelodau gyda ni, rydyn niā€™n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal diswyddo ar raddfa fawr a meithrin hyder defnyddwyr i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir.

ā€œMae Ā£14 miliwn yn ategu’r gronfa caledi a bydd yn ychwanegu gwerth a yrru arloesedd. Bydd yn cael ei reoli gan Chwaraeon Cymru ac rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am eu help gyda sicrhau cyllid ar gyfer ein sector.

ā€œBydd union fanylion y pecyn cyllido diweddaraf ymaā€™n dilyn yn fuan ond mae gennym ni gyfrifoldeb fel diwydiant i gydweithio i gadw at y rheoliadau sydd wediā€™u pennu gan Lywodraeth Cymru a sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthuā€™n gyflym ac yn deg er mwyn helpu i achub swyddi a chadw cyfleusterau ar agor. Yr opsiwn arall yw y byddwn niā€™n gweld drysauā€™n cau heb agor byth eto ac felly rydyn niā€™n annog awdurdodau lleol i weithreduā€™n gyflym i warchod y cyfleusterau syā€™n wynebu risg o gau yn fuan. 

ā€œMaeā€™r gronfa gyfun yn golygu bod gennym ni rwyd diogelwch nawr hyd at fis Mawrth 2021 ond rhaid i ni gofio nad ni ywā€™r unig sector ar ymyl y dibyn ar hyn o bryd. Mae dod Ć¢ā€™r cynllun cadw swyddi i ben aā€™r cynnydd diweddar mewn achosion o Covid-19, yn ogystal Ć¢ gosod cyfyngiadau symud lleol, yn golygu bod amseroedd anodd oā€™n blaen. Mae hyder y cyhoedd yn allweddol a byddwn yn parhau i weithio gydaā€™n haelodau aā€™n cyrff rheoleiddio er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dod o hyd i atebion creadigol a fydd yn galluogi i ni gynnal digwyddiadau a dosbarthiadau eto mewn ffordd ddiogel a chyson oddi mewn i derfynauā€™r ddeddfwriaeth gyfredol. Mae negeseuon clir yn allweddol.ā€

Share This

Our Partners

en_GBEnglish
Scroll to Top
Table Tennis – The Gerald Watkins Blaenau Gwent Open 2024 DSW Cyfres Dysgu | Learning Series – UK Disability Inclusion Training for Coaches and Volunteers DSW Cyfres Dysgu | Learning Series – Introduction to insport Club Table Tennis – Cardiff Grand Prix 2024 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 Table Tennis Wales & Parkinson’s UK Cymru Networking Event Table Tennis – Senior Team Championships of Wales 2024-2025 ā€“ Weekend 2 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 ā€“ Weekend 2