Swyddog Datblygu a Digwyddiadau Chwaraeon Conwy a Dinbych – Urdd

Swyddog Datblygu a Digwyddiadau Chwaraeon Conwy a Dinbych

Teitl y swydd:  Swyddog Digwyddiadau a Datblygu Chwaraeon Conwy a Dinbych

Math o gytundeb:  Swydd barhaol

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 4 : £29,409-£31,430 y flwyddyn

Lleoliad:  Swyddfa Dinbych 

Dyddiad cau: 31 Awst 

Dyddiad cyfweld:  w/c 7fed o Fedi

Swydd ddisgrifiad:  Cliciwch yma

Ffurflen gais:  Cliciwch yma

Y Swydd

Nod y swydd fydd i gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau chwaraeon, clybiau a chystadlaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, trwy ddatblygu darpariaeth chwaraeon a chydlynu digwyddiadau o safon uchel. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys recriwtio, mentora a datblygu gwirfoddolwyr, a sicrhau profiad diogel a chadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled Jones (Rheolwr Chwaraeon Talaith y Gogledd a Gorllewin Cymru) ar 07976003315 neu [email protected] 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at [email protected] 

Share This

Our Partners

en_GBEnglish
Scroll to Top