Swyddog Datblygu a Digwyddiadau Chwaraeon Conwy a Dinbych
Teitl y swydd: Swyddog Digwyddiadau a Datblygu Chwaraeon Conwy a Dinbych
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 4 : £29,409-£31,430 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Dinbych
Dyddiad cau: 31 Awst
Dyddiad cyfweld: w/c 7fed o Fedi
Swydd ddisgrifiad: Cliciwch yma
Ffurflen gais: Cliciwch yma
Y Swydd
Nod y swydd fydd i gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau chwaraeon, clybiau a chystadlaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, trwy ddatblygu darpariaeth chwaraeon a chydlynu digwyddiadau o safon uchel. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys recriwtio, mentora a datblygu gwirfoddolwyr, a sicrhau profiad diogel a chadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled Jones (Rheolwr Chwaraeon Talaith y Gogledd a Gorllewin Cymru) ar 07976003315 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at [email protected]

















