Fforwm Lles Actif ColegauCymru Active Wellbeing Forum – WEST WALES 
DIGWYDDIAD GORLLEWIN CYMRU
Yr hydref hwn bydd ColegauCymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer Lles Actif yn y sector Addysg Bellach.
Ymunwch â ni ar Gampws Llanelli Coleg Sir Gar / Coleg Ceredigion dydd Iau 20 Hydref 2022 o 9.30yb.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Fforymau Lles Actif ColegauCymru?
Bydd y Fforymau yn eich annog i gymryd rhan weithredol wrth arwain datblygiad cyflwyno gweithgareddau yn y dyfodol, cefnogi gwaith partneriaeth newydd a gwerthuso ffyrdd newydd o fonitro gweithgaredd.
Bydd pob diwrnod yn cynnwys mewnwelediad o ymchwil diweddar ColegauCymru, mewnbwn gan bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol a gweithdai datblygu ar themâu allweddol gan gynnwys:
- Cysylltu Gweithgaredd a Lles Sut gallwn ni wella ein dealltwriaeth o fanteision cyfranogiad ar gyflogadwyedd a lles yn y dyfodol?
- Newid Diwylliannol Pa newidiadau ymddygiad sydd eu hangen i wreiddio gweithgaredd a chyrraedd cynulleidfa ehangach yn y sector addysg bellach?
- Cydweithio Ble gall sefydliadau gysylltu â’r sector addysg bellach i ehangu’r cynnig i bobl ifanc a chyflawni amcanion a rennir?
———————————————————————————–
WEST WALES EVENT
This Autumn ColegauCymru will be holding a series of events looking at the next stages for Active Wellbeing in the Further Education sector.
Join us at Coleg Sir Gar / Coleg Ceredigion’s Llanelli Campus on Thursday 20 October 2022 from 9.30am.
What can you expect from the ColegauCymru Active Wellbeing Forums?
The Forums will encourage you to take an active role in guiding the future development of activity delivery, support new partnership working and evaluate new ways of monitoring activity.
The day will include insight from recent ColegauCymru research, input from key partners and stakeholders and development workshops on key themes including:
- Connecting Activity and Wellbeing How can we improve our understanding of the benefits of participation on future employability and wellbeing?
- Cultural Change What behaviour changes are needed to embed activity and reach a wider audience in the FE sector?
- Collaboration Where can organisations connect with the FE sector to widen the offer for young people and achieve shared objectives?