Ydych chi eisiau bod yn rhan o lunio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru?

Ydych chi eisiau bod yn rhan o lunio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru?

Rydym yn chwilio am eich mewnbwn, eich gwybodaeth a’ch profiad o lunio’r datrysiadau i gryfhau gwirfoddoli ar fyrddau a phwyllgorau yng Nghymru.

Canfu ymchwil diweddar a gyllidwyd gan CGGC fod:

  • 78% o grwpiau yn cael anhawster recriwtio gwirfoddolwyr i fyrddau rheoli
  • 89% o grwpiau wedi nodi y byddent yn elwa ar fwy o gymorth i helpu i recriwtio gwirfoddolwyr medrus
  • Cytunodd llai na hanner y gwirfoddolwyr fod ganddynt gymorth effeithiol ar gyfer eu rôl ar lefel bwrdd, pwyllgor ac ymddiriedolwr.

Ymunwch â ni yn Wrecsam (Parc y Glowyr) a Chaerdydd (Swît Sophia, Chwaraeon Cymru) ar 9 Hydref 2024 am 4pm i wneud gwahaniaeth a lleisio eich barn.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu prif ganfyddiadau gwaith ymchwil sylfaenol newydd ar y problemau o ran capasiti ac amrywiaeth gwirfoddolwyr ar fyrddau a phwyllgorau yn y sectorau chwaraeon a gwirfoddol. Nod y sesiwn yw datblygu datrysiadau i’r dyfodol a fydd yn cryfhau’r rolau gwirfoddoli hanfodol hyn er mwyn cael sector cryfach a mwy gwydn.

Hefyd, os oes gennych ddiddordeb, byddwn ni (WSA) yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) 2024 rhwng 15.00 – 16.00. Gallwch gofrestru ar gyfer un neu’r ddau sesiwn ar y ddolen hon

Share This

Our Partners

en_GBEnglish
Scroll to Top
DSW Cyfres Dysgu | Learning Series – UK Disability Inclusion Training for Coaches and Volunteers DSW Cyfres Dysgu | Learning Series – Introduction to insport Club Table Tennis – Cardiff Grand Prix 2024 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 Table Tennis Wales & Parkinson’s UK Cymru Networking Event Table Tennis – Senior Team Championships of Wales 2024-2025 – Weekend 2 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 – Weekend 2