Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden

CRONFA ADFER CHWARAEON A HAMDDEN I HELPU I ATAL DISWYDDO MAWR YN Y BYD CHWARAEON YNG NGHYMRU

Mae Victoria Ward, Prif Weithredwr Cymdeithas Chwaraeon Cymru, wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £14 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi’r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y gronfa i ddarparwyr chwaraeon a hamdden cyhoeddus, preifat a nid-er-elw ledled Cymru.

Dywedodd Victoria:

“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad tymor hir y Gweinidog i gefnogi chwaraeon yng Nghymru ac yn gwerthfawrogi ei gydnabyddiaeth bod gweithgarwch corfforol yn rhan hanfodol o’n gallu i adfer wedi’r pandemig a dod allan yn gryfach.    

“Mae hwn yn ddarlun sy’n esblygu wrth i ni lywio llwybr drwy’r heriau iechyd cyhoeddus rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, a sicrhau cadernid ariannol, diogelu swyddi a gwarchod iechyd a lles ein cenedl yw ein blaenoriaethau mwyaf ni. Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau sy’n aelodau gyda ni, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal diswyddo ar raddfa fawr a meithrin hyder defnyddwyr i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir.

“Mae £14 miliwn yn ategu’r gronfa caledi a bydd yn ychwanegu gwerth a yrru arloesedd. Bydd yn cael ei reoli gan Chwaraeon Cymru ac rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am eu help gyda sicrhau cyllid ar gyfer ein sector.

“Bydd union fanylion y pecyn cyllido diweddaraf yma’n dilyn yn fuan ond mae gennym ni gyfrifoldeb fel diwydiant i gydweithio i gadw at y rheoliadau sydd wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru a sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu’n gyflym ac yn deg er mwyn helpu i achub swyddi a chadw cyfleusterau ar agor. Yr opsiwn arall yw y byddwn ni’n gweld drysau’n cau heb agor byth eto ac felly rydyn ni’n annog awdurdodau lleol i weithredu’n gyflym i warchod y cyfleusterau sy’n wynebu risg o gau yn fuan. 

“Mae’r gronfa gyfun yn golygu bod gennym ni rwyd diogelwch nawr hyd at fis Mawrth 2021 ond rhaid i ni gofio nad ni yw’r unig sector ar ymyl y dibyn ar hyn o bryd. Mae dod â’r cynllun cadw swyddi i ben a’r cynnydd diweddar mewn achosion o Covid-19, yn ogystal â gosod cyfyngiadau symud lleol, yn golygu bod amseroedd anodd o’n blaen. Mae hyder y cyhoedd yn allweddol a byddwn yn parhau i weithio gyda’n haelodau a’n cyrff rheoleiddio er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dod o hyd i atebion creadigol a fydd yn galluogi i ni gynnal digwyddiadau a dosbarthiadau eto mewn ffordd ddiogel a chyson oddi mewn i derfynau’r ddeddfwriaeth gyfredol. Mae negeseuon clir yn allweddol.”

Share This

Our Partners

Scroll to Top
Carbon Literacy Training: June 2024 NED & Senior Leadership Training 2 Leading Sport: Board Composition and Inclusive Leadership