Mid Wales Sports Partnership announces Gemma Cutter as Regional Director
The Mid Wales Sports Partnership has today announced the appointment of its first ever Regional Director. Gemma Cutter is to take up the role in January, having spent the last 20 years working in Wales’ sports sector.
Gemma, who lives in Tregaron, will lead the new organisation which covers Ceredigion and Powys and will engage with existing and new stakeholders and partners, driving innovative and collaborative partnerships.
“I’m thrilled to be appointed as the first Regional Director of the Mid Wales Partnership. It’s an incredible opportunity to help drive positive change and make a lasting difference across our beautiful region.”
“Physical activity plays a powerful role in enhancing wellbeing, and through this partnership, we’ll strengthen regional collaboration with individuals and organisations that share our vision. At the heart of our work will be inclusion and a focus on people’s abilities, and I’m confident that together we can create meaningful, lasting change.”
Gemma says the move is “a return to her roots” having started her career at Ceredigion County Council before joining Disability Sport Wales in 2017 as Performance Pathway Senior Officer and, later, as Head of Active Pathways.
This news follows the appointment of Brecon’s Sherrie Woolf as chair of the Mid Wales Sports Partnership chair back in July. Sherrie adds:
“Gemma brings an incredible wealth of regional knowledge and more than 20 years of expertise in the sports sector, with a strong emphasis on inclusion. Her leadership will be instrumental as we work to promote sport and physical activity in Powys and Ceredigion, with inclusion at the heart of everything we do,” said Sherrie.
The way in which community sport and physical activity opportunities are planned, delivered and funded across Wales is being transformed through the creation of five Sport Partnership.
Designed to overcome ongoing and stubborn inequalities in participation in sport and physical activity, the partnerships – Mid Wales, Central South, West Wales, North Wales and Gwent – will help transform Wales into an active nation where everyone can have a lifelong enjoyment of sport.
CYHOEDDIAD GAN BARTNERIAETH CHWARAEON CANOLBARTH CYMRU
Heddiw, mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi penodi Cyfarwyddwr Rhanbarthol am y tro cyntaf erioed. Bydd Gemma Cutter yn ymgymryd â’r rôl ym mis Ionawr, ar ôl treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector chwaraeon yng Nghymru.
Bydd Gemma, sy’n byw yn Nhregaron, yn arwain y sefydliad newydd sy’n cwmpasu Ceredigion a Phowys a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid presennol a newydd, gan ysgogi partneriaethau arloesol a chydweithredol.
“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf Partneriaeth Canolbarth Cymru. Mae’n gyfle anhygoel i helpu i ysgogi newid cadarnhaol a gwneud gwahaniaeth parhaol ar draws ein rhanbarth arbennig.”
“Mae gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan bwerus o ran gwella lles, a thrwy’r bartneriaeth hon, byddwn yn cryfhau’r broses gydweithio ranbarthol gydag unigolion a sefydliadau sy’n rhannu ein gweledigaeth. Wrth wraidd ein gwaith bydd cynhwysiant a ffocws ar alluoedd pobl, ac rwy’n hyderus y gallwn, gyda’n gilydd, greu newid ystyrlon, parhaol.”
Dywed Gemma fod y cam yn golygu ei bod yn “dychwelyd i’w gwreiddiau” ar ôl dechrau ei gyrfa yng Nghyngor Sir Ceredigion cyn ymuno â Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2017 fel Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad ac, yn ddiweddarach, fel Pennaeth Llwybrau Gweithredol.
Daw’r newyddion hyn yn dilyn penodi Sherrie Woolf o Aberhonddu yn gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru nôl ym mis Gorffennaf.
“Mae Gemma yn dod â chyfoeth anhygoel o wybodaeth ranbarthol a mwy nag 20 mlynedd o arbenigedd yn y sector chwaraeon, gyda phwyslais cryf ar gynhwysiant. Bydd ei harweinyddiaeth yn allweddol wrth i ni weithio i hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mhowys a Cheredigion, gyda chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai Sherrie.
Mae’r ffordd y mae cyfleoedd chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol yn cael eu cynllunio, eu darparu a’u hariannu ledled Cymru yn cael eu trawsnewid drwy greu pum Partneriaeth Chwaraeon.
Wedi’u cynllunio i oresgyn anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd y partneriaethau – Canolbarth Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a Gwent – yn helpu i drawsnewid Cymru yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.