Diogelu a DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru: Eich Cadw’n Ddiogel mewn Chwaraeon

Diogelu a DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru: Eich Cadw’n Ddiogel mewn Chwaraeon

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod chwaraeon a hamdden yn lle diogel i bawb ei fwynhau. Ymdrechwn i wireddu’r ymrwymiad hwn drwy gynnig llu o adnoddau yn ymwneud â diogelu, gan gynnwys gwasanaeth gwirio DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru a chyfleoedd am hyfforddiant.

O un flwyddyn i’r llall, mae mwy a mwy o sefydliadau ac unigolion yn defnyddio ein hadnoddau wrth i gyrff rheoli cenedlaethol ac endidau chwaraeon eraill ymdrechu i wneud y sector yn lle diogel.

Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu cefnogi sefydliadau, clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed a sicrhau bod y sector yn cynnig lle diogel i bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.

Rydyn ni hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ar gyfer 2024–2025, ac rydyn ni eisoes ar y trywydd iawn i weld mwy o wiriadau DBS yn cael eu cynnal drwy ein gwasanaeth. Mae mwy o bobl yn cymryd rhan hefyd mewn cyrsiau diogelu na’r flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Gwasanaeth gwirio DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru sy’n gynyddol boblogaidd

Roedd Medi 2024 yn fis nodedig i wasanaeth gwirio DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru, wrth i 2,969 o wiriadau gael eu cynnal.

Roedd y cyfanswm hwn 15% yn fwy na’r record flaenorol ar gyfer un mis, a osodwyd ym mis Medi 2023 pan gynhaliwyd 2,578 o wiriadau drwy ein gwasanaeth.

Erbyn hanner ffordd drwy flwyddyn ariannol 2023–2024, roedden ni wedi gweld cyfanswm o 10,304 o wiriadau yn mynd drwy wasanaeth gwirio DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru o’i gymharu â 11,693 eleni – cynnydd o 13.5%.

Mae ein gwasanaeth DBS yn rhan allweddol o’n harlwy diogelu, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan dros 320 o sefydliadau o bob rhan o’r DU – yn y sector chwaraeon a hamdden a thu hwnt.

Dewch i wybod mwy yma am unig wasanaeth dwyieithog Cymru ac un o’r atebion mwyaf cost-effeithiol ar y farchnad. Mae Aelodau’n cael disgownt ar y ffi weinyddol sydd eisoes yn isel.

Nifer gynyddol o fynychwyr ar gyrsiau diogelu Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru hefyd yn cynnig cyrsiau diogelu hanfodol ar gyfer aelod-sefydliadau. Mae’r cyrsiau Time To Listen a Team Manager wedi’u cynllunio i alluogi swyddogion clwb i ddeall eu cyfrifoldebau o ran diogelu yn well. Maen nhw’n sicrhau eu bod yn gwbl gymwys i hyfforddi plant ac oedolion sy’n agored i niwed a chynnig amgylcheddau diogel i gymryd rhan.

Ar draws ein cyrsiau a’n sesiynau hyfforddi, mae 77 o unigolion wedi cymryd rhan ers dechrau blwyddyn ariannol 2024–2025, sy’n gynnydd o dros 42% o’i gymharu â’r 54 o gyfranogwyr hyd at yr un pwynt ym mlwyddyn ariannol 2023–2024.

Mae’r cyrsiau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn cael eu darparu’n ddiogel yng Nghymru. Mae Nofio Cymru, aelod o Gymdeithas Chwaraeon Cymru, er enghraifft, wedi’i gwneud yn ofynnol i’r hyfforddwyr ddilyn y cyrsiau cyn mynd i sesiynau nofio.

Adnoddau diogelu eraill Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Ochr yn ochr â gwasanaeth gwirio DBS a chyrsiau diogelu Cymdeithas Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o adnoddau sy’n ymwneud â diogelu ar ein gwefan.

O ganllawiau ar godau ymddygiad y cyfryngau cymdeithasol i arferion gorau o ran diogelu mewn digwyddiadau chwaraeon, mae ein hamrywiaeth o adnoddau yno i helpu cyrff chwaraeon, clybiau ac unigolion i wneud y sector chwaraeon a hamdden yn lle diogel.

Dysgwch ragor am ein gwasanaethau diogelu yma.

Share This

Our Partners

en_GBEnglish
Scroll to Top
Swim Wales Sport Passport Version 2.0 Launch – Welsh Audiences CalQRisk – Sustainability Solution for Sports Webinar North Wales Sport and Physical Activity Conference | Cynhadledd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Gogledd Cymru WSA Sustainability in Sport Conference North Wales Sport and Physical Activity Conference | Cynhadledd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Gogledd Cymru Carbon Literacy Day 1 Carbon Literacy Day 2 Table Tennis – The Gerald Watkins Blaenau Gwent Open 2024 Table Tennis – Cardiff Grand Prix 2024 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 Table Tennis – Senior Team Championships of Wales 2024-2025 – Weekend 2 Table Tennis – Veteran Team Championships Of Wales 2024-2025 – Weekend 2