Y Gymraeg mewn chwaraeon

Y Gymraeg mewn chwaraeon

Braf oedd croesawu cymaint o bartneriaid i seminar ar y Gymraeg mewn chwaraeon ddydd Iau 24 Mehefin. Nod y sesiwn oedd trafod y manteision o ddatblygu eich gwasanaethau Cymraeg, y gofynion sydd ar bartneriaid sy’n derbyn nawdd gan Chwaraeon Cymru a’r cymorth sydd ar gael gan Dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Chwaraeon Cymru.

Cadeirydd y sesiwn oedd Brian Davies, Cyfarwyddwr Corfforaethol Chwaraeon Cymru. Cafwyd cyflwyniad gan y Tim Hybu ar y broses hwylus o greu cynllun datblygu’r Gymraeg, a’r cyfle i geisio am gydnabyddiaeth swyddogol am eich Cynnig Cymraeg.

Gwnaeth Ian Blackburn esbonio’r disgwyliadau sy’n treiddio lawr i’r partneriaid sy’n derbyn nawdd ac fe gafwyd cyfraniadau gan Triathlon Cymru, Gymnasteg Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru ar y ‘quick wins’ a’r cynlluniau hir dymor i ddenu mwy o aelodau sy’n siarad Cymraeg, i gynyddu boddhad ac i weithio mewn partneriaeth.

Mae sawl sgwrs gyda’r campau eisoes wedi cychwyn ers y seminar felly holwch y Tîm Hybu, Ian Blackburn neu’r Gymdeithas Chwaraeon am fwy o wybodaeth ac i gydio yn y cyfle.

Share This

Our Partners

Scroll to Top
Carbon Literacy Training: 6 & 13 June 2024 NED & Senior Leadership Training 2 Leading Sport: Board Composition and Inclusive Leadership